Pwyntiau ar gyfer cyflwyniad i’r Pwyllgor Deisebiadau

 

Dyma’r ddeiseb “Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i newid y Cwricwlwm Cenedlaethol a dysgu hanes Cymru, a hynny o bersbectif Cymreig, yn ein Hysgolion Cynradd, Uwchradd a’r Chweched Dosbarth” .

 

1.   Rhoddir lle canolog  i hanes lleol a hanes Cymru, o fewn cyd-destun ehangach, yn y fersiwn cyfredol o’r Cwricwlwm (2008 ), sydd ei hun yn seiliedig ar y fersiynau blaenorol ac ar egwyddorion yr adroddiadau cyntaf o 1989 ymlaen.

2.   Rhoddid rhyddid i athrawon ddehongli gofynion y cwricwlwm i gwrdd ag anghenion a diddordebau eu disgyblion, lleoliad yr ysgol ac ati. Serch hynny, mewn ymateb i'r pryderon a fynegwyd gan athrawon bod gormod o gynnwys yn Rhaglen Astudio  Hanes, dilewyd rhywfaint o gynnwys ym mhob adolygiad, ond cadwyr y sgiliau hanesyddol, a ddiffiniwyd or cychwyn fel Ymwybyddiaeth Gronolegol, Gwybodaeth a Dealltwriaeth, Denhongliadau o Hanes, Ymholi Hanesyddol, a Chyfathrebu. Rhoddodd Gorchymyn 2008 y prif bwyslais ar ymholi, gan ddarparu fframwaith o 'gwestiynau mawrion' er strwythuro't dysgu.

3.   Awgrymodd ymgynghoriadau gydag athrawon fod gan gyrsiau TGAU Hanes a'u dulliau o asesu ddylanwad sylweddol ar yr hanes a ddysgwyd yng Nghyfnod Allweddol 3, a hyd yn oed yn yr ysgol gynradd. Rwy wedi awgrymu y dylai’r Pwyllgor ofyn am dystiolaeth Gareth Pierce, o CBAC gynt, ar weithredu’r penderfyniad i wneud hanes Cymru yn rhan itegredig a gorfodol o faes llafur TGAU. Perthnasol yma efallai yw nodi bod hanes Cymru yn elfen ddewisol ym maes llafur TGAU, er iddo fod yn rhan orfodol yn y maes llafur Safon Gyffredin blaenorol. Fe all fod hynny wedi ei ganfod fel adlewyrchiad at ei statws, ac wedi dylanwadu ar yr agwedd tuag at hanes Cymru mewn ysgolion yn fwy cyffredinol. Mae maes llafur TGAU ar gyfer Cymru wedi ei gyflwyno bellach, ac mae hwn yn integreiddio hanes Cymru i'r cyd-destun hanesyddol ehangach, ond mae'n rhy gynnar i ddweud eto a fydd hyn yn effeithio ar agweddau tuag at ddysgu hanes Cymru cyn-14.

4.   Mae sylwadau ganathrawon prifysgol yn awgrymu bod hanes Cymru fel pwnc mewn perygl yn y sector hwnnw hefyd. Cyfeiriwyd gan at ddiffyg gwybodaeth a diddordeb glasfyfyrwyr ynddo fel pwnc, sydd, efallai, yn adlewyrchu  eu haddysg flaenorol. Opsiwn yw hanes Cymru yng nghyrsiau hanes Safon Uwch ac Uwchgyfrannol hefyd.

5.   Mae Cwricwlwm Cenedlaethol newydd yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd, ar sail argymhellion Adroddiad yr Athro Donaldson, ac fe fydd hanes yn dod yn rhan o faes y dyniaethau, sydd hefyd yn cynnwys daearyddiaeth, addysg grefyddol, astudiaethau busnes ac ati. Nid yw’n glir ar hyn o bryd faint o le fydd i hanes yn y gyfundrefn newydd, na’r math o hanes sydd dan ystyriaeth.

6.       Mae pum mlynedd wedi mynd heibio ers cyhoeddi'r Adroddiad ar y Cwricwlwm Cymreig a Hanes.  Er i'r Adroddiad gael derbyniad ffafriol, ac er i'r Gweinidog Addysg ar y pryd gyhoeddi ei fod yn derbyn yr argymhellion i gyd, ni nid wyf yn ymwybodol o unrhyw arweiniad a gafwyd gan y Llywodraeth yn ystod y blynyddoedd hynny ar y modd y dylid dysgu hanes Cymru, ar wahan i'r hyn a geir yn Adroddiad yr Athro Donaldson (Dyfodol Llwyddiannus, 2015).

7.       Yn anffodus, er bod pwyslais priodol iawn yn yr Adroddiad hwnnw ar wella sefyllfa'r iaith Gymraeg mewn ysgolion, siomedig yw'r sylw a roir ynddo i  gyd-destun diwylliannol, cymdeithasol na hanesyddol yr iaith (a gw. fy sylwadau manwl ar hynny yn y ddogfen atodiedig, Ymateb i Donaldson Terfynol)

8.   Mae'r ymateb i'r ddeiseb, fel yr ymateb a gafwyd yn ystod y broses o ymgynghori ym 2012-13, yn awgrymu bod nifer o bobl yn anfodlon gyda'r hyn a ganfyddir fel diffyg ysgolion i ddysgu hanes Cymru yn effeithiol ar hyn o bryd. Mae'r oedi a fu ers cyhoeddi'r adroddiad ar y Cwricwlwm Cymreig a hanes Cymru, ynghyd â diffyg arweiniad gan y Llywodraeth ar y pwnc, yn debyg o ddwysau'r anfodlonrwydd hwn.

9.   Mae prinder unrhyw dystiolaeth wrthrychol a dibynadwy am y math o hanes a ddysgir yn ysgolion Cymru yn ychwanegu at y broblem. Gwnaethpwyd ymchwil manwl i'r math o hanes Cymru a ddysgid i ddisgyblion 11 -16 – dros ugain mlynedd yn ôl. Dwi ddim yn ymwybodol o unrhyw ymchwil ers hynny, ac felly mae unrhyw ymdriniaeth â'r pwnc yn cael ei seilio ar ddamcaniaethau a phrofiadau unigolion yn unig. byddaf yn cyfeirio at waith ymchwil Siân Rhiannon ryw ugainmlynedd yn ôl ar ddysgu hanes Cymru yng Nghyfnodau 3 a 4, gan dynnu sylw at ddifyg unrhyw ymchwil safonol a gwrthrychol ers hynny, dros ugain mlynedd yn ôl erbyn hyn.

10.                Oherwydd prinder tystiolaeth wrthrychol, a'r teimladau cryf ar y pwnc, mae perygl y gall dysgu hanes yng Nghymru ddod yn fater gwleidyddol .  Gan fod digon o gyfle i ddysgu hanes Cymru yn y Cwricwlwm fel y mae, nid yw'r glir pam fod cymaint o anfodlonrwydd ymhlith y cyhoedd am ddiffygion yn y ddarpariaeth ar hyn o bryd. Fe all fod dysgu hanes Cymru yn cael ei ganfod fel dysgu propaganda cenedlaetholwyr gan rai athrawon, a rhai gwleidyddion hefyd, o bosibl. Ond mae datblygu sgiliau ymholi a gwerthuso tystiolaeth yn arf rymus yn erbyn trwytho meddyliau. Mae hanes Cymru hefyd yn llawer mwy cymhleth ac amwys nag y mae rhai yn ei dybied. Gwlad aml-ddiwylliannol fu Cymru o'r dechrau, gwlad lle siaredid mwy nag un iaith, a choleddwyd mwy nag un crefydd. Nid yw dysgu hanes yn iawn yn darparu atebion hawdd, nac yn rhoi un fersiwn yn unig o'r gorffennol – ond mae'n ein denu i feddwl, i ystyried ac i ofyn cwestiynau. Rhydd gyfle i ni ddeall a derbyn syniadau a chredoau gwahanol, ac i werthfawrogi trafod, cyfnewid syniadau a phwyso a mesur honiadau – a thrwy hynny ddod i werthfawrogi democratiaeth, nid fel rhywbeth sydd yn digwydd ymhell i ffwrdd oddi wrthym, ond fel rhywbeth a ddatblygodd a sydd yn bodoli yn ein bro ni ein hunain.